Atodiad 1

 

Argymhelliad

Ymateb

Diweddariad Ebrill 2015

Argymhelliad 1 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i diwygiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol ar faterion economaidd, yn sicrhau bod Polisi Cynllunio Cymru yn diogelu canol trefi'n llwyr rhag effeithiau posibl datblygiadau manwerthu ar gyrion trefi, ac y dylai'r Llywodraeth hefyd gymryd camau i wella'r broses o roi polisi cynllunio cenedlaethol a lleol ar waith. (Tudalen 14)

 

Derbyn

 

Bydd y polisi diwygiedig arfaethedig (Daeth yr ymgynghoriad ar Bennod 7 Polisi Cynllunio Cymru i ben ar 5 Mawrth 2012) yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu dull mwy cyfannol o fynd i'r afael â gwaith datblygu economaidd a chydnabod bod rhywfaint o effaith economaidd yn deillio o'r rhan fwyaf o ddefnyddiau o dir. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol ystyried effeithiau tebygol yr holl ddatblygiadau ac edrych ar yr holl gynigion ar y cyd o safbwynt eu heffaith ar yr economi yn hytrach na'r cynigion yn unigol. Mae'r polisi diwygiedig hefyd yn pennu y dylai awdurdodau lleol geisio canolbwyntio ar ddatblygiadau sy'n denu nifer fawr o bobl, gan gynnwys datblygiadau manwerthu a swyddfeydd, yng nghanol dinasoedd, trefi a phentrefi.

 

 

Cyhoeddwyd y polisi cynllunio diwygiedig ar ddatblygu economaidd ym Mholisi Cynllunio Cymru ym mis Hydref 2012. Wedi hynny cyhoeddwyd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 23 ym mis Chwefror 2014.

 

Mae TAN 23 yn cydnabod manwerthu fel defnydd economaidd o dir ac yn rhoi cyngor polisi i awdurdodau cynllunio lleol ynghylch pwyso a mesur manteision economaidd datblygiadau newydd sy’n cynnwys llywio datblygiadau i’r lleoliadau mwyaf cynaliadwy.

 

Mae’r cyngor hwn yn ategu’r polisi cryf “canol trefi yn gyntaf” sydd eisoes wedi’i gynnwys ym Mholisi Cynllunio Cymru.

 

Byddwn hefyd yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth yr haf yma a fydd yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd cynllunio i osod llawr mesanîn mewn adeiladau manwerthu lle bydd yr arwynebedd llawr ychwanegol yn fwy na 200 metr sgwâr. Bydd hyn yn golygu y bydd y datblygiadau hyn yn cael eu hasesu yn erbyn polisi cynllunio cenedlaethol presennol ynghylch manwerthu.

Argymhelliad 2 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud defnydd gwell o'u cytundebau â manwerthwyr ar gyrion trefi er mwyn diogelu bywiogrwydd canol trefi ymhellach. (Tudalen 15)

 

 

Derbyn

 

Mae rheoliadau eisoes yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau dan gontract i ddatblygiadau ar gyrion trefi a mater i awdurdodau lleol yw trafod a negodi â datblygwyr a manwerthwyr ar gyrion trefi ynghylch materion o'r fath, gan ddiogelu bywiogrwydd canol trefi, fel y bo'n briodol. 

 

Fel rhan o'n hadolygiad o adfywio bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y modd yr ydym yn datblygu canllawiau ar gyfer ein partneriaid er mwyn diogelu bywiogrwydd canol trefi.

 

 

 

 

Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol eisoes yn gallu gosod amodau ar ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau ar gyrion trefi i reoli’r mathau o nwyddau a werthir er mwyn lleihau i’r eithaf yr effaith ar ganol trefi.

 

Rydym yn ystyried cryfhau ein cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ar ddefnyddio amodau ar geisiadau cynllunio yn yr adolygiad cyfredol o bolisi cynllunio cenedlaethol ynghylch manwerthu.

 

Argymhelliad 3 - Credwn y dylid lledaenu enghreifftiau o arfer da wrth hyrwyddo canol trefi yn ehangach, ac rydym yn argymell bod Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru yn datblygu ei rôl yn y maes hwn, gan gynnwys addysgu ac annog gweithwyr proffesiynol yn y sector. (Tudalen15)

 

 

Derbyn

 

Dyma faes y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w ddatblygu fel rhan o'n hadolygiad o adfywio. Deallwn y bydd Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru yn lansio 'Trefi Bach: Rhwydwaith Polisi ac Ymarfer' yn fuan sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o arfer gorau wrth adfywio canol trefi ac addysgu gweithwyr proffesiynol yn y sector. Byddwn yn cydweithio'n agos â Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru er mwyn cefnogi eu gweithgareddau.

 

 

Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru yw’r sefydliad allweddol ar gyfer rhannu arfer gorau yng Nghymru; fe lansiodd rwydwaith ar ei newydd wedd, Rhwydwaith Trefi Cymru, ym mis Hydref 2014 ac mae wedi sefydlu pwyllgor gwaith newydd. Mae Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru wedi helpu Awdurdodau Lleol a’u partneriaid cyflawni i roi rhaglenni ar waith dan y fframwaith adfywio, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, gyda’i ffocws ar ganol trefi a threfi glan-môr. 

 

Yn ogystal â phecynnau cymorth ac ymchwil, mae hefyd yn meithrin gallu’r proffesiwn a grwpiau cymunedol trwy gynnal ymweliadau arfer gorau (a chyhoeddi astudiaethau achos cysylltiedig), cynnal seminarau a digwyddiadau ar themâu penodol e.e. Defnyddiau yn y Cyfamser. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen barhaus ar gael yma:

 

http://regenwales.org/w-events.php

Argymhelliad 4 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu mwy o waith ymchwil ar effeithiau posibl archfarchnadoedd ar ansawdd canol trefi er mwyn llywio'r broses o ddadansoddi effaith datblygiadau arfaethedig o fewn y system rheolaeth gynllunio a'i gwella, ac y dylai asesiadau o'r effaith ar fanwerthwyr lleol fod yn orfodol mewn perthynas â chynigion archfarchnadoedd. (Tudalen 17)

 

Derbyn

 

Byddwn yn comisiynu ymchwil a fydd yn astudio effaith datblygiad manwerthu newydd ar ganol trefi yng Nghymru. Bydd hyn yn datblygu'r canllawiau presennol ynghylch pryd y dylai asesiadau effaith manwerthu gael eu paratoi, gan y byddem yn disgwyl i unrhyw newid i ganllawiau presennol fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a ddarperir drwy'r ymchwil.

 

 

Ym mis Mehefin 2013 comisiynodd yr Is-adran Gynllunio ymchwil gan ymgynghorwyr o gwmni Genecon i ddynameg datblygiadau manwerthu yng Nghymru i helpu i lywio’r broses o adolygu polisi a chyngor cynllunio ynghylch manwerthu yn y dyfodol. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ebrill 2014.

Mae’r adroddiad yn trafod tueddiadau diweddar ym maes manwerthu a’u goblygiadau posibl ac yn cynnwys 15 o argymhellion ynghylch newidiadau posibl i bolisi cynllunio cenedlaethol.

Yn dilyn cwblhau’r ymchwil cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol y byddai swyddogion yn dechrau gwaith ar yr adolygiad o gyngor a pholisi cynllunio ynghylch manwerthu, ac mae’r gwaith hwn bellach yn mynd rhagddo.

Mae Grŵp Cynghori Technegol wedi cael ei sefydlu i lywio’r gwaith hwn.

Bydd hyn yn arwain at gyhoeddi fersiwn newydd o Bennod 10 ym Mholisi Cynllunio Cymru a drafft newydd o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 4: Manwerthu a Chanol Trefi, ar gyfer ymgynghori erbyn haf 2015.

Argymhelliad 5 - Rydym yn argymell bod awdurdodau cynllunio lleol yn cael eu hannog, o fewn eu Cynllun Datblygu Lleol, i ystyried datblygiadau swyddfa a gweithle fel modd i gynyddu nifer y bobl mewn canol trefi, ac y dylent asesu canlyniadau posibl cynigion ar gyfer datblygiadau swyddfa ar gyrion trefi, a dewisiadau amgen, yn fwy gofalus. (Tudalen18)

 

Derbyn

 

Mae'r newidiadau arfaethedig i Bennod 7 Polisi Cynllunio Cymru (Cynnal yr Economi) yn pennu y dylai awdurdodau lleol geisio canolbwyntio ar ddatblygiadau sy'n denu nifer fawr o bobl, gan gynnwys datblygiadau manwerthu a swyddfeydd, yng nghanol dinasoedd, trefi a phentrefi. Caiff y safbwynt hwn ei ailadrodd ym Mhennod 10 Polisi Cynllunio Cymru (Manwerthu) sy'n pennu rhai canolfannau trefi, canolfannau ardal, canolfannau lleol a chanolfannau pentref fel y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer swyddogaethau manwerthu, hamdden a swyddogaethau eraill atodol. Mae'n rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ddangos bod ganddo ddigon o dystiolaeth ar gyfer cefnogi strategaethau a pholisïau lleol a rhai sy'n benodol i safleoedd a gynhwysir o fewn eu Cynlluniau Datblygu Lleol, a ddatblygwyd yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.

 

 

Cyhoeddwyd y polisi cynllunio diwygiedig ar ddatblygu economaidd ym Mholisi Cynllunio Cymru ym mis Hydref 2012. Wedi hynny cyhoeddwyd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 23 ym mis Chwefror 2014.

 

Hefyd, amlygodd adroddiad Genecon yr angen am ganllawiau ychwanegol ar y dull dilyniannol ar gyfer dethol safleoedd a gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli datblygu. 

Argymhelliad 6 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu arweinyddiaeth Weinidogol benodedig ar gyfer canol trefi, gan gynnwys sefydlu fforwm polisi canol trefi wedi'i gadeirio gan y Gweinidog arweiniol, a fyddai'n dwyn ynghyd swyddogion o Adrannau gwahanol a chynrychiolwyr allweddol o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol i rannu arfer da a nodi cynllun gweithredu a fframwaith monitro ar gyfer adfywio canol trefi Cymru. (Tudalen 21)

 

Derbyn

 

Yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, fi sy'n bennaf gyfrifol am adfywio canol trefi ar ran Llywodraeth Cymru. Mae nifer o sefydliadau a phartneriaethau allanol hefyd yn cefnogi'r gwaith hwn, gan gynnwys y Panel Adfywio Cenedlaethol a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru.

 

 

 

Fi, fel y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, sy’n gyfrifol bellach am arweinyddiaeth ar gyfer canol trefi.

 

Rydym wedi ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sy’n cynnwys amrywiaeth o arbenigedd ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac ar draws ystod o ddisgyblaethau sy’n berthnasol i adfywio. Mae’r grŵp yn craffu ar ein polisïau a chamau gweithredu ar gyfer canol trefi a byddwn yn cyhoeddi ei gyngor terfynol yn 2016.

 

Mae swyddogion o wahanol adrannau yn Llywodraeth Cymru yn cwrdd yn rheolaidd i ystyried polisi ynghylch canol trefi trwy’r Bwrdd Polisi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

 

Rydym wedi cyhoeddi fframwaith ar gyfer monitro perfformiad canol trefi i’r Awdurdodau Lleol sy’n cael cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, a bydd yr ymarferion casglu data cyntaf yn digwydd ym mis Ebrill – Mai eleni.

Argymhelliad 7 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu trafnidiaeth integredig a chynaliadwy yng nghanol trefi a dinasoedd Cymru yn flaenoriaeth o ran cyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. At hynny, dylai Llywodraeth Cymru roi canllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod integreiddio trafnidiaeth yn rhan graidd o bob cynllun i adfywio ac ailddatblygu canol tref. (Tudalen 24)

 

Derbyn

 

Mae teithio cynaliadwy yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes trafnidiaeth. Yn ddiweddar rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau flaenoriaeth i'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol er mwyn gallu cyflawni ymrwymiadau'r Llywodraeth hon ynghylch mynd i'r afael â thlodi, cynyddu lles a hybu twf economaidd. Mae parhau i ddatblygu trafnidiaeth integredig a chynaliadwy o fewn trefi Cymru yn flaenoriaeth o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, fel y tystia'r ymrwymiad i fuddsoddi yn y fenter Canolfannau Teithio Cynaliadwy am o leiaf 3 blynedd arall ynghyd â buddsoddiad parhaus mewn ymyriadau dewisiadau doethach fel y fenter Cynlluniau Teithio Personol a lansiwyd yng Nghaerdydd ym mis Medi 2011 a'r gwaith o'u hyrwyddo

 

 

Daeth yr ymgynghoriad ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft newydd i ben ar 11 Mawrth 2015. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bum blaenoriaeth allweddol ac mae teithio cynaliadwy a diogelwch yn un o’r rhain. Mae’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a bydd y Cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

 

Nodwyd blaenoriaeth debyg hefyd yn y Canllawiau ynghylch Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

Argymhelliad 8 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith monitro perfformiad trylwyr ac yn comisiynu gwerthusiad annibynnol manwl o'r cynllun Canolfan Teithio Cynaliadwy. Dylai hyn gynnwys asesu effaith pob cynllun ar fywiogrwydd y canol trefi dan sylw, gan gynnwys mynediad i bobl anabl. (Tudalen28)

 

Derbyn

 

Mae gan Lywodraeth Cymru gomisiwn fframwaith ar gyfer cyflawni gwaith Cynllunio Teithio Personol ar draws Cymru, sy'n cynnwys Cynllunio Teithio i'r Ysgol a Chynllunio Teithio i'r Gweithle. Dyfarnwyd y contract ym mis Rhagfyr 2010 am gyfnod o bedair blynedd. Mae'r fframwaith yn cynnwys gofyniad i ymgymryd â gwaith monitro a gwerthuso perfformiad. Mae'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer monitro a gwerthuso perfformiad wrthi'n cael ei hystyried gan y Grŵp Llywio ar gyfer Canolfannau Teithio Cynaliadwy. Unwaith y caiff ei chymeradwyo caiff ei chaffael drwy'r comisiwn fframwaith presennol.

 

Rydym hefyd wrthi'n monitro effaith y buddsoddiad yn y seilwaith.

 

 

Cwblhawyd y rhaglen Cynllunio Teithio Personol 4 blynedd ym mis Rhagfyr 2014. Mae adroddiad gwerthuso ar y prosiectau a gyflawnwyd yng Nghaerdydd, Pontypridd, Caerffili a Môn a Menai wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

 

 

 

Argymhelliad 9 - Credwn y gall fod angen i fusnesau mewn canol trefi weithredu oriau agor mwy hyblyg er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid sy'n newid. Rydym yn argymell felly fod Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei Nodyn Cyngor Technegol ar Gynllunio a Manwerthu i gynnwys canllawiau i awdurdodau lleol ar osod amodau ar ddatblygiadau manwerthu mewn perthynas ag oriau gwaith mwy hyblyg. (Tudalen 29)

 

Derbyn

 

Rydym yn derbyn bod ein canol trefi yn newid, a bod ein gweithgareddau siopa a hamdden a'n harferion prynu hefyd yn newid. Mae potensial mewn safleoedd gwag i greu unedau preswyl, gan gynnwys uwchben siopau a gwasanaethau eraill ar y llawr gwaelod.

 

Ni ellir gosod amodau'n ôl-weithredol ar yr amodau oriau agor yn achos datblygiadau presennol. Serch hynny, fel rhan o'r Rhaglen Gwella Ceisiadau Cynllunio, mae gwaith ar y gweill i adolygu canllawiau Cymru ynghylch defnyddio amodau gyda chaniatâd cynllunio; bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law. Wrth ystyried a oes angen amod penodol, dylai awdurdodau cynllunio ofyn iddynt eu hunain a fyddai caniatâd wedi'i wrthod pe na byddai'r amod hwnnw wedi'i roi. Ymhlith y ffactorau eraill y mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio dalu sylw iddynt mae ystyried a yw amod arfaethedig yn berthnasol i gynllunio, a oes modd ei orfodi, ac a yw'n rhesymol ym mhob agwedd arall.

 

Caiff yr angen am ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol 4 ei ystyried yng ngoleuni'r ymchwil y cyfeirir ati yn Argymhellion 1 a 4.

 

 

Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol eisoes yn gallu gosod amodau ar ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau ar gyrion trefi i reoli’r mathau o nwyddau a werthir er mwyn lleihau i’r eithaf yr effaith ar ganol trefi.

 

Rydym yn ystyried cryfhau ein cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ar ddefnyddio amodau ar geisiadau cynllunio yn yr adolygiad cyfredol o bolisi cynllunio cenedlaethol ynghylch manwerthu.

 

Argymhelliad 10 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau gweithredu arloesol sydd wedi'u cynllunio ac sy'n annog perchenogion eiddo i roi eu heiddo gwag mewn canol trefi ar osod at ddibenion byw a gwaith a fyddai'n cyfrannu at fywiogrwydd canol trefi heb danseilio gwerth hirdymor yr eiddo. (Tudalen 30)

 

 

Derbyn

 

Rydym eisoes yn cefnogi prosiectau a rhaglenni, fel yr Ardaloedd Adnewyddu Tai, a all fod yn sbardun i ailddefnyddio eiddo gwag a gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywiogrwydd canol trefi. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig ag eiddo gwag, a byddwn yn ystyried cyfleoedd pellach yn y maes hwn. 

 

 

Mae llawer o brosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a phrosiectau Benthyciadau Canol Tref yn cefnogi cymelliadau i landlordiaid yng nghanol trefi wneud y defnydd gorau o’u hadeiladau a chyfrannu at fwy o lewyrch yng nghanol trefi. Er enghraifft, yn Sir y Fflint a Chasnewydd bydd cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cael ei ddefnyddio i droi ystafelloedd uwchben siopau’n dai o safon dda yng nghanol trefi ac i wella ffryntiadau siopau yng nghanol trefi.

Argymhelliad 11 - Rydym yn argymell bod Cadw yn parhau â'i hastudiaethau pennu nodweddion mewn trefi a phentrefi a'u bod yn rhan annatod o unrhyw gynllun adfywio. Rydym yn argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ddefnydd o'r Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau ac yn annog ei phartneriaid datblygu i wneud yr un peth. (Tudalen 33)

 

 

Derbyn

 

Rydym o'r farn fod astudiaethau pennu nodweddion yn bwysig wrth fynd ati i werthfawrogi hanes a chymeriad lle, a bydd y nodweddion hynny'n rhan annatod o gynlluniau adfywio yn y dyfodol. Bydd Cadw yn parhau i wneud Astudiaethau Pennu Nodweddion mewn trefi penodol, a bydd yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd i sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn seiliedig ar ddealltwriaeth o gymeriad hanesyddol. 

 

Byddwn yn annog mwy o ddefnydd ar Wasanaeth Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio Cymru ar gyfer ein gweithgareddau adfywio canol trefi a byddwn yn annog ein partneriaid adfywio i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

 

 

Cyhoeddodd Cadw ddau adroddiad pellach yn y gyfres ‘Deall Nodweddion Trefol’ ym mis Mawrth 2015, a’r rheiny’n canolbwyntio ar Ferthyr Tudful a Phenfro. Mae astudiaethau wedi’u cwblhau, sydd heb eu cyhoeddi eto ond sydd ar gael fel drafftiau, yn cynnwys Hafod a Chwm Tawe Isaf, a Chaergybi. Mae Cadw hefyd yn gweithio ar gyfarwyddyd ymarfer ‘Rheoli Cymeriad Hanesyddol Lleol’, i egluro pam ei bod yn bwysig cydnabod cymeriad hanesyddol mewn gwaith cadwraeth, adfywio a chynllunio, a sut i ymateb i hynny.

 

Argymhelliad 12 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol ar gyfer manwerthu a chanol trefi er mwyn sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn pennu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer pob un o'r canol trefi a'r strydoedd mawr yn eu Cynllun Datblygu Lleol, ac i ddarparu fframwaith cadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio i sicrhau y caiff datblygiadau priodol eu lleoli mewn mannau addas y gellir eu cyrraedd yn hawdd drwy drafnidiaeth gynaliadwy. (Tudalen 35)

Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y newidiadau arfaethedig i Bennod 7 o Bolisi Cynllunio Cymru yn mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio sylfaen dystiolaeth o nodweddion economaidd eu hardaloedd, ac i ddatblygu polisïau priodol ar gyfer cynlluniau datblygu yn seiliedig ar ragdybiaethau deallus am y newidiadau posibl, gan ystyried y polisïau economaidd cenedlaethol. Mae'r canllawiau ym Mhennod 8 (Trafnidiaeth) a Phennod 10 (Manwerthu a Chanol Trefi) o Bolisi Cynllunio Cymru yn darparu hierarchaeth i hysbysu penderfyniadau ynghylch lleoliad datblygiadau newydd ac maent yn dangos yn glir mor bwysig yw sicrhau trafnidiaeth gynaliadwy.

 

 

Mae adroddiad Genecon yn amlygu pwysigrwydd sefydlu gweledigaeth, strategaeth neu Uwchgynllun eglur ar gyfer canol trefi i roi arweiniad a threfn wrth ddatblygu polisïau mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

 

Rydym yn ystyried cryfhau ein cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ar ddefnyddio uwchgynlluniau a strategaethau canol trefi yn yr adolygiad cyfredol o bolisi cynllunio cenedlaethol ynghylch manwerthu.

 

Argymhelliad 13 - Rydym yn argymell, o fewn fframwaith y Cynllun Datblygu Lleol, fod gan bob tref gynllun cynhwysfawr ar waith, a ddatblygwyd gan bartneriaeth leol o randdeiliaid allweddol a thrwy ymgysylltu â'r gymuned, sy'n cynnwys camau gweithredu i fynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar hyfywedd canol y dref. (Tudalen 37)

 

Derbyn mewn egwyddor

 

Rydym yn derbyn byrdwn argymhelliad y Pwyllgor. Mater i'r awdurdodau lleol symud ymlaen ag ef yw hwn drwy'r sylfaen dystiolaeth a'r cynllun cynnwys cymunedau, sy'n angenrheidiol i sicrhau Cynlluniau Datblygu Lleol cadarn.

 

Mae cydymffurfio â pholisi cynllunio cenedlaethol yn rhan o'r prawf o ddilysrwydd y Cynllun Datblygu Lleol, a chaiff hynny ei asesu gan Arolygydd annibynnol. O ran cynnwys y gymuned, mae'n ofynnol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi Cynllun Cynnwys Cymunedau yn dangos sut fydd yr awdurdod yn cynnwys y gymuned ym mhob cam o'r broses o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol a'r bobl neu'r grwpiau hynny ddylai fod yn rhan o'r broses.

 

Byddwn yn ystyried cryfhau'r agwedd hon fwy fyth fel rhan o'n hadolygiad o adfywio. 

 

 

Mae adroddiad Genecon yn amlygu pwysigrwydd sefydlu gweledigaeth, strategaeth neu Uwchgynllun clir ar gyfer canol trefi i roi arweiniad a threfn wrth ddatblygu polisïau mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

 

Rydym yn ystyried cryfhau ein cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ar ddefnyddio uwchgynlluniau a strategaethau canol trefi yn yr adolygiad cyfredol o bolisi cynllunio cenedlaethol ynghylch manwerthu.

 

Argymhelliad 14 - Credwn mai'r hyn sy'n allweddol i lwyddiant adfywio canol trefi yn lleol yw arweinyddiaeth gadarn ac effeithiol. Rydym yn argymell felly fod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i roi gwell cefnogaeth i'r bobl sydd â'r sgiliau angenrheidiol a pharch y gymuned leol i weithredu fel eiriolwyr i ddwyn ynghyd yr agweddau gwahanol ar waith adfywio canol trefi ynghyd â phawb sy'n chwarae rhan ynddo. (Tudalen 38)

 

Derbyn

 

Mae llwyddiant cynlluniau adfywio canol trefi yn cael eu priodoli'n aml iawn i ymroddiad a brwdfrydedd unigolion lleol sydd â gallu cryf i arwain. Byddwn yn ystyried sut orau i gefnogi arweinyddiaeth leol fel rhan o'r opsiynau y byddwn yn eu hystyried ar gyfer ein buddsoddiadau yn y dyfodol.

 

 

Rydym wedi darparu cronfa adfywio newydd sy’n werth £845,000 i gefnogi ugain o Bartneriaethau Canol Tref ledled Cymru sy’n ysgogi gweithgareddau sy’n cyfrannu at wella perfformiad canol trefi. Bydd y cyllid yn cynyddu’r gallu i ddarparu’r arweinyddiaeth ar gyfer partneriaethau o’r fath.

 

Mae Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru, trwy ein harian grant, yn hwyluso Rhwydwaith Trefi Cymru i ddatblygu sgiliau ac arweinyddiaeth yn y maes hwn.

Argymhelliad 15 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol a chymunedau i fod yn rhagweithiol wrth chwilio am ffynonellau buddsoddi ar gyfer prosiectau adfywio canol trefi a chael gafael arnynt lle nad oes arian cyhoeddus ar gael. (Tudalen40)

 

Derbyn

 

Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn, er bod angen i ni reoli’r disgwyliadau o ran y lefel o fuddsoddiad sydd ar gael, ac unrhyw ofynion perthnasol, er enghraifft yr enillion sydd eu hangen.

 

 

Mae gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru Reolwr Adfywio penodol yn Llywodraeth Cymru. Maent i gyd yn cael rhywfaint o fuddsoddiad uniongyrchol i adfywio canol trefi ar ffurf grantiau neu fenthyciad gennym, ond mae briff gan y Rheolwyr Adfywio i helpu Awdurdodau Lleol i ddefnyddio dulliau arloesol i gefnogi canol trefi ym mhob ardal.

Argymhelliad 16 - Rydym yn argymell bod panel annibynnol Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yn ystyried newidiadau mewn deddfwriaeth ac yn y broses o arfer pwerau disgresiwn, gyda'r nod o wella'r amrywiaeth o fusnesau manwerthu sy'n bodoli mewn canol trefi a'u hansawdd. (Tudalen 43)

 

 

Derbyn

 

Mae'r panel annibynnol ar ardrethi busnes yn gwybod am argymhelliad y Pwyllgor a'r materion ehangach sy'n ymwneud ag adfywio canol trefi. Caiff hyn ei ystyried fel rhan o'i adroddiad terfynol sydd i'w ddisgwyl cyn diwedd Mawrth. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion y Panel ac yn ymateb i'w adroddiad terfynol fel y bo'r galw.

 

Ers i’r argymhelliad gael ei wneud ym mis Ionawr 2012, mae’r Grŵp Tasg a Gorffen ar Ardrethi Busnes a’r Panel ar Ardrethi Busnes wedi gwneud nifer o argymhellion, y mae llawer ohonynt yn cefnogi’r sector manwerthu a chanol trefi trwy’r gyfundrefn ardrethi busnes.

 

Mae’r mesurau hyn wedi cynnwys

 

·         helpu awdurdodau lleol i ddefnyddio’u pwerau yn ôl disgresiwn mewn perthynas ag ardrethi busnes i gynnig rhyddhad (gan gynnwys Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru a’r Cynllun Ar Agor Am Fusnes);

·         ymestyn y Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach;

·         capio codiadau mewn Biliau Ardrethi Busnes ar 2%. 

 

Yn fwy eang mae ardrethi busnes wedi cael eu datganoli i Gymru yn ddiweddar a bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd ariannol a’r hyblygrwydd o ran polisi i Gymru allu datblygu’r gyfundrefn gywir ar gyfer Cymru.

 

Argymhelliad 17 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu cynllun peilot, o fewn rheolau cystadlu'r UE ac mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a pherchenogion eiddo, sy'n helpu busnesau newydd i sefydlu mewn canol trefi. (Tudalen 44)

 

 

Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn fel rhan o'i chynigion ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol.

 

 

 

 

 

 

Gweler yr ymateb i Argymhelliad 16 uchod.

Argymhelliad 18 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, wrth negodi'r cynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2010, yn ceisio sicrhau bod y Rheoliadau newydd yn ddigon hyblyg i alluogi'r Cronfeydd i gael eu defnyddio i gefnogi gweithgareddau adfywio canol trefi yn ystod y cylch nesaf. (Tudalen 45)

 

Derbyn mewn egwyddor

 

O fewn Rhaglen Gydgyfeirio bresennol yr UE mae cyfanswm o 24 o brosiectau adfywio canol trefi wedi'u cymeradwyo gan WEFO sy'n werth oddeutu £270 miliwn o fuddsoddiad. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno achos, mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a sefydliadau'r UE, i sicrhau parhad ym muddsoddiad Cronfeydd Strwythurol yr UE. Caiff adfywio canol trefi ei ystyried fel rhan o'r broses hon. 

 

 

Chwaraeodd Llywodraeth Cymru ran fawr yn y broses o negodi’r rheoliadau ar gyfer Cronfeydd Strwythurol 2014-2020, gan ddadlau dros hyblygrwydd, integreiddio a symleiddio. Mae’r rheoliadau terfynol yn caniatáu buddsoddi mewn seilwaith amrywiol, a allai o bosibl gynnwys camau gweithredu i adfywio canol trefi.

 

Bydd y mathau o gamau gweithredu a fydd yn cael eu cefnogi yng Nghymru oll yn dibynnu ar y cyfraniad at amcanion a chanlyniadau penodol y rhaglenni. Modd i gyflawni diben yw’r mathau o fuddsoddiadau, ac nid diben ynddynt eu hunain. Gallai hyn olygu y byddai buddsoddiadau mewn mathau gwahanol o seilwaith yn gallu cyflawni effeithiau mwy.

 

Argymhelliad 19 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu asesiad llawn a thryloyw o effeithiolrwydd Ardal Gwella Busnes Abertawe ac yn ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid i lywio'r gwaith o ddatblygu Ardaloedd Gwella Busnes yng Nghymru ymhellach. (Tudalen 47)

 

Derbyn

 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried pa mor effeithiol yw'r Ardaloedd Gwella Busnes ac a oes posibilrwydd y gallent gael eu defnyddio mewn man arall yng Nghymru. Gyda chyllid Ardal Adfywio Blaenau'r Cymoedd, rydym yn cefnogi datblygiad Ardal Gwella Busnes ym Merthyr Tudful a fydd yn cynnal pleidlais rhwng busnesau'r dref yr haf hwn. Rydym yn awyddus i ddysgu o brofiad Merthyr a byddwn yn comisiynu adolygiad o'r Ardaloedd Gwella Busnes yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Abertawe. Byddwn hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio Cronfeydd Strwythurol presennol a dyfodol y UE i gefnogi gallu busnesau i gystadlu drwy fodel Ardaloedd Gwella Busnes Cymru. Dylai rhanddeiliaid gofrestru unrhyw syniadau am brosiectau drwy wefan WEFO. 

 

 

Fe gomisiynon ni adroddiad i asesu effeithiolrwydd Ardaloedd Gwella Busnes presennol yng Nghymru ac i archwilio’r modd y gellid gwneud gwaith pellach i ddatblygu Ardaloedd Gwella Busnes. Cwblhawyd yr adroddiad ym mis Mehefin 2013 ac mae ar gael ar ein gwefan.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £203,000 ym mis Ionawr 2014 i gefnogi’r broses o ddatblygu cynigion yng Nghymru. 

 

Rydym yn cefnogi deg ardal ar hyn o bryd:  Y Fenni; Aberystwyth; Pen-y-bont ar Ogwr; Llanelli; Castell-nedd; Ystadau Diwydiannol y Pant a Merthyr Tudful; Pontypridd; Caernarfon; Bangor a Bae Colwyn.

 

Rhaid cynnal rhaglen beilot lwyddiannus ym mhob ardal cyn y gellir sefydlu Ardal Gwella Busnes a bydd pleidleisiau’n cael eu cynnal yn ystod 2015.

 

Argymhelliad 20 - Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru drwy Croeso Cymru yn annog partneriaethau tref i farchnata eu nodweddion gwerthu unigryw megis treftadaeth bensaernïol ac ansawdd amgylcheddol, cynnyrch lleol a diwylliant lleol, gan gynnwys grwpiau o drefi o fewn ardal o bosibl fel y gall eu nodweddion gwahanol ategu ei gilydd. Gallai hyn fod yn rhan o gynllun canol y dref a argymhellwyd gennym uchod. (Tudalen 49)

 

 

Derbyn

 

Mae Croeso Cymru eisoes yn gweithredu yn y modd hwn, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn dod â hyd yn oed mwy o werth yn y dyfodol. Mae Croeso Cymru yn chwarae rhan weithgar mewn annog busnesau lleol a phob un sy'n ymwneud â thwristiaeth i gydweithio a hyrwyddo'u hardal fel cyrchfan i dwristiaid. Mae ganddynt wefan benodol, www.dmwales.com, i annog y datblygiadau hyn o ran cyrchfannau twristiaeth a helpu i greu profiad cyflawn ar gyfer ymwelwyr drwy ddod â'r holl asedau twristiaeth mewn un ardal at ei gilydd. Mae Croeso Cymru hefyd yn gweithio'n agos yn yr Ardaloedd Adfywio i sicrhau bod twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau adfywio canol trefi.

 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i weithio gyda’r partneriaethau rheoli cyrchfan allweddol o amgylch Cymru, y mae pob un ohonynt wedi cytuno ar gamau gweithredu ac argymhellion i wella’r arlwy yng nghanol eu trefi. Mae’r sector twristiaeth yn dal i ddarparu cyllid cyfalaf a refeniw y gellir ei ddefnyddio i wella’r arlwy yng nghanol trefi ledled Cymru. 

Argymhelliad 21 - Credwn y dylai Llywodraeth Cymru lunio fframwaith cadarn ar gyfer cynllunio, datblygu a chyflawni prosiectau adfywio canol trefi lle y gellir pennu amcanion a thargedau clir; casglu data, mesur canlyniadau ac effeithiau; a gwerthuso a chymharu perfformiad a llwyddiant. (Tudalen 50)

 

Derbyn

 

Fel y nodais yn y cyflwyniad i'r ymateb hwn, rwyf wedi cyhoeddi y byddwn yn cynnal adolygiad o'n gweithgareddau adfywio cyfredol, yn enwedig y saith Ardal Adfywio. Y bwriad yw pennu beth sy'n gweithio'n dda a dysgu o'r gweithgareddau diweddar hyn. O ran ein rhaglenni buddsoddi yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod fframwaith yn cael ei ddatblygu i fesur ein perfformiad yn effeithiol ym maes adfywio. 

 

 

Rydym yn datblygu fframwaith cadarn i fynd ati’n effeithiol i fesur ein perfformiad ym maes adfywio, yn enwedig y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. 

 

Rydym wedi cyhoeddi llawlyfr yn ddiweddar ar gyfer Awdurdodau Lleol i fesur perfformiad canol trefi mewn ardaloedd Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, gan adeiladu ar fethodoleg sydd wedi ennill ei phlwyf.

 

Rydym yn comisiynu gwerthusiad proses o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i ddeall beth sydd wedi gweithio’n dda a beth sydd i’w ddysgu am ddyluniad a gweithrediad y rhaglen hon. Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r adroddiad gwerthuso yn yr haf.